Bydd ein Noson Gymraeg nesaf yn cael ei chynnal ym mar coctêl MAMUCIUM (6 Todd Street, Manceinion M3 1WU) ar nos Iau, 8fed Mai 2025. Sail y bwciad yw diodydd-yn-unig, er y bydd modd i chi archebu rhywbeth i’w fwyta hefyd os ydych chi’i eisiau. Yn ogystal â bod yn lleoliad chwaethus a chlyd, mae MAMUCIUM yn hynod o gyfleus, ac yntau'n agos iawn at Orsaf Drenau Victoria. Bydd hi’n wych cael eich croesawu chi i gyd (gan gynnwys aelodau newydd wrth gwrs!) a chael rhoi’r byd yn ei le yn Gymraeg yn ôl ein harfer. Gyda llaw, mae’r grŵp yma ar gyfer pobl o bob oedran. Ein nod yw creu ac ehangu meicro-gymuned Gymraeg yn y ddinas lawog. Felly, ymunwch â ni! :-)